BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

United Kingdom Statutory Instruments


You are here: BAILII >> Databases >> United Kingdom Statutory Instruments >> Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) 2005 Rhif 2746
URL: http://www.bailii.org/uk/legis/num_reg/2005/20052746w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2746

CWMNïAU

Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) 2005

  Gwnaed 28 Medi 2005 
  Yn dod i rym 1 Hydref 2005 

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 88(2) a 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985[1], fel y cawsant eu hestyn gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] a'r holl bwerau eraill sy'n ei galluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:

     1. Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) 2005 a byddant yn dod i rym ar 1 Hydref 2005.

    
2. Mae Ffurflen 88(2) CYM (Rev 2005) a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen a gaiff ei phennu at ddibenion adran 88(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985 gyda golwg ar glustnodi cyfrannau ar neu wedi 1 Rhagfyr 2003.

    
3. —(1) Ac eithrio i'r graddau a ddisgrifir ym mharagraff 3(2), bydd 88(2) CYM a welir yn yr Atodlen i Reoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) (Rhif 2) 1999[3] yn peidio a chael ei phennu gyda golwg ar glustnodi cyfrannau ar neu wedi 1 Rhagfyr 2003.

    (2) Er gwaethaf paragraff 3(1), gall y ffurflen y sonnir amdani yn y paragraff hwnnw barhau i gael ei defnyddio ar gyfer cyflwyno manylion i'r Cofrestrydd cyn 31 Hydref 2006.


Claire Clancy
ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol Aran Masnach a Diwydiant

28 Medi 2005



ATODLEN






EXPLANATORY NOTE

(Nid yw 'r nodyn hwn yn rhan o 'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurflen 88(2) CYM (Rev 2005) ddiwygiedig i'w defnyddio mewn cysylltiad â chlustnodi cyfrannau ar neu wedi 1 Rhagfyr 2003. Diwygiwyd y ffurflen er mwyn cymryd i ystyriaeth ddiddymu'r doll stamp (ac eithrio yng nghyswllt offerynnau'n ymwneud â stoc neu warannau marchnadol) o dan ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Cyllid 2003 (c.14) a'r diwygiad canlyniadol i adran 88 o Ddeddf Cwmnïau 1985 (c.6) drwy Reoliadau Toll Stamp Treth Dir (Diwygio Canlyniadol i Ddeddfiadau) 2003 (O.S.2003/2868).

Mae Ffurflen 88(2) CYM, a gafodd ei phennu gan Reoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) (Rhif 2), yn parhau i fod wedi ei phennu ar gyfer clustnodi a drefnwyd cyn 1 Rhagfyr 2003. Gellir hefyd ei defnyddio i gyfleu manylion cyn 31 Hydref 2006 gyda golwg ar unrhyw glustnodi a drefnwyd ar neu wedi 1 Rhagfyr 2003.


Notes:

[1] 1985 c. 6. Gweler diffiniad "pennu" yn adran 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985.back

[2] 1993 c. 38.back

[3] O.S. 1999/2357.back



ISBN 0 11 515514 7


 © Crown copyright 2005

Prepared 14 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/uk/legis/num_reg/2005/20052746w.html